ABA banner

Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar


Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn clinig sy’n dadansoddi ymddygiad plant 6 blwydd oed ac iau ag awtistiaeth (er nad oes angen diagnosis ffurfiol arnynt i gael gwasanaethau). Arweinir ein gwasanaeth gan Gydlynwyr Clinig cymwysedig a chaiff ei staffio gan fyfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig sy’n astudio Dadansoddi Ymddygiad ym Mhrifysgol De Cymru. Trwy ddadansoddi ymddygiad cymhwysol (ABA), mae’r plant yn cael therapi un i un a seiliwyd ar dystiolaethau ac anghenion yr unigolyn mewn amgylchedd hwyliog, egnïol a meithringar.

 

Mae therapi ABA yn cynnwys nodi’r sgiliau y bydd angen i’ch plentyn eu dysgu (e.e. iaith, sgiliau cymdeithasol, sgiliau hunangymorth) ac yna, mae’n dylunio cwricwlwm unigol i addysgu’r sgiliau hynny. Byddwn yn cynnal asesiad cynhwysfawr o sgiliau cyfredol eich plentyn. Yna, byddwn yn cynllunio Cwricwlwm Addysgu Unigol sy’n targedu sgiliau penodol. Mae sesiynau addysgu yn digwydd ar sail un i un neu ddau i un (dau therapydd i bob plentyn) gyda’r nod o helpu’r plentyn fynd i’r afael â’r sgiliau a dysgu’r modd y gall y sgiliau hynny arwain at atgyfnerthiad. Wrth i sgiliau ddatblygu, adolygir y cwricwlwm ac ychwanegir mwy o sgiliau.

 

Gallwn drefnu therapi i’ch plentyn hyd at 15 awr yr wythnos, gan ddibynnu ar y gofod sydd ar gael. Rydym yn argymell bod plant yn mynychu am y nifer uchaf o oriau'r wythnos a ganiateir gan eich sefyllfa bersonol, gan fod ymchwil yn dangos po fwyaf yr oriau a dreulir mewn therapi yn dadansoddi ymddygiad, mwyaf oll y sgiliau y gall plant eu hennill. Fodd bynnag, rydym hefyd yn sylweddoli fod nifer yr oriau y gall plant fynychu’r clinig yn amrywio o deulu i deulu. Bydd staff y clinig yn gweithio gyda chi i bennu nifer yr oriau sydd fwyaf addas i’ch sefyllfa bersonol.

 

Bellach, mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac o’r herwydd, mae’n cwrdd â’r holl safonau sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu meithrinfeydd.

 

Er mwyn ymholi am wasanaethau i’ch plentyn, gyrrwch e-bost at ein Cydlynwyr Clinig i’r cyfeiriad isod:

 

[email protected]