Mae Clinig Dadansoddi Ymddygiad PDC yn cynnig gwasanaethau a hyfforddiant clinigol. Y corff proffesiynol sy’n gysylltiedig â rheoleiddio dadansoddwyr ymddygiad ledled y byd yw’r Bwrdd Ardystio Dadansoddwyr Ymddygiad, sy’n gosod safonau proffesiynol llym o ran hyfforddi dadansoddwyr ymddygiad a darparu gwasanaethau. Mae pob gwasanaeth clinigol yn cael ei ddarparu neu ei oruchwylio’n agos gan Ddadansoddwyr Ymddygiad Ardystiedig y Bwrdd (y BCBAs).