Mae dadansoddi ymddygiad yn ddull therapiwtig, ac mae cyfoeth o
dystiolaeth wyddonol yn dangos ei fod yn effeithiol wrth drin yr heriau
ymddygiadol sy’n gysylltiedig ag ystod eang o anhwylderau, gan gynnwys awtistiaeth,
anableddau dysgu, ADHD, ac anhwylder ymddygiad. Mae dadansoddwyr ymddygiad yn
canolbwyntio ar ddeall y modd y mae rhyngweithio â’r amgylchedd yn dylanwadu ar
ymddygiad rhywun. Maen nhw hefyd yn dyfeisio ymyriadau effeithiol i helpu pobl
ddysgu ymddygiadau priodol ac i gynyddu’u llwyddiant ar draws ystod o feysydd yn
eu bywydau. Gall dadansoddwyr ymddygiad hefyd hyfforddi a chefnogi rhieni,
athrawon a darparwyr gwasanaeth i weithredu arferion sy’n seiliedig ar
dystiolaeth, er mwyn gwella ymddygiad heriol.